Lleoliad:
Fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 23 Hydref 2023
Amser:
13.34 -
15.07
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13513
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Adam Price AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
2.1 SL(6)392 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
3.1 SL(6)390 - Gorchymyn Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
4.1 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
4.2 Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Rhestrau Sefydliadau) (Dirymu) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
4.3 Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Rhif 2) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
4.4 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE: Adroddiad cryno o’r trydydd cyfarfod
Nododd y Pwyllgor yr adroddiad cryno o drydydd cyfarfod y Cynulliad Partneriaeth Seneddol, a’r llythyr a anfonwyd at y Prif Weinidog yn tynnu ei sylw at yr adroddiad.
5.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Confensiwn ar Gyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol rhwng y DU, Norwy, Liechtenstein a Gwlad yr Iâ
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
5.3 Gohebiaeth gan y Sefydliad Llywodraeth a Sefydliad Bennett ar gyfer Polisi Cyhoeddus: Adolygiad o Gyfansoddiad y DU
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a’r adroddiad gan y Sefydliad Llywodraeth a Sefydliad Bennett ar gyfer Polisi Cyhoeddus.
5.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 4) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
5.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio,
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
5.6 Gohebiaeth rhwng Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.
5.7 Gohebiaeth gan Anabledd Cymru: Cyllideb Llywodraeth Cymru 2024-2025
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Anabledd Cymru.
5.8 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Ynni y DU
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
5.9 Gohebiaeth â Phrif Weinidog Cymru: Craffu ar waith Gweinidogion
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023: Trafod y dystiolaeth
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a’r Gweinidog Newid Hinsawdd.
8 Blaenraglen waith
Nododd y Pwyllgor ei Flaenraglen Waith a chytunodd arni.
9 Adroddiad Blynyddol
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad blynyddol drafft a chytunwyd i drafod drafft arall yn y cyfarfod nesaf.